Delyth Jewell AS

Cadeirydd, Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1SN

27 Hydref 2023

 

Annwyl Ms Jewell,

 

Diolch am eich llythyr dyddiedig 3 Hydref 2023 yn cymryd camau dilynol mewn perthynas â sawl pwynt a godwyd yn ystod ein cyfarfod gyda'r Pwyllgor ar 21 Medi 2023 ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr.

 

Adborth o Fforwm Cyfrifiad Rhyngwladol 2023

 

Cynhaliwyd Fforwm Cyfrifiad Rhyngwladol 2023 yn Montreal rhwng 2 a 5 Hydref. Roedd cynrychiolwyr o Ganada, Unol Daleithiau America, Seland Newydd, Awstralia, Iwerddon, yr Alban, Cymru a Lloegr, a Gogledd Iwerddon yn bresennol.

Cafodd y mater o gasglu data am iaith yn y cyfrifiad ei drafod yn y Fforwm hwn. Yn benodol, cafwyd trafodaeth ynglŷn â sut y caiff gwybodaeth am iaith ei chasglu yn y cyfrifiad ac a oes unrhyw heriau penodol wedi'u nodi. Yn fras, ni nododd unrhyw wlad ei bod wedi cael anawsterau sylweddol wrth gasglu nac adrodd. 

Er enghraifft, yng Nghyfrifiad o Boblogaeth Canada, mae pedwar cwestiwn am iaith, sef: a yw'r person yn gallu siarad Saesneg neu Ffrangeg yn ddigon da i gynnal sgwrs; pa iaith a gaiff ei siarad yn rheolaidd yn y cartref; pa iaith a gaiff ei siarad amlaf yn y cartref; pa iaith a gaiff ei dysgu gyntaf yn y cartref yn ystod plentyndod ac sy'n cael ei deall o hyd.

Ni nododd gwledydd unrhyw broblemau mewn perthynas ag ymdeimlad o berthyn nac unrhyw faterion eraill o bwys wrth gymharu'r Cyfrifiad ag Arolygon.

Fel rhan o fframwaith Cymunedau Ymarfer y Fforwm, mae gweithgorau technegol yn bodoli er mwyn symud gwaith yn ei flaen mewn ffordd gydweithredol. Byddai casglu gwybodaeth am iaith yn rhan o'r Gymuned Ymarfer ar gyfer casglu data ac felly bydd arferion gorau a dulliau gweithredu yn parhau i gael eu rhannu rhwng gwledydd yn y gweithgor hwn.

Cynllun gwaith ar y cyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) a Llywodraeth Cymru ar gydlynu ystadegau am y Gymraeg

 

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw cael data cadarn ar sgiliau Cymraeg i Lywodraeth Cymru, er mwyn mesur cynnydd yn erbyn y nod o gael miliwn o siaradwyr erbyn

 

 

 

2050. Rydym wedi gwneud gwaith ymchwil cychwynnol i'r posibilrwydd o ddefnyddio setiau data gweinyddol i ddarparu gwybodaeth am newidynnau sgiliau Cymraeg, ac o ffynonellau addysg yn benodol. Mae'r ymchwil hon wedi awgrymu bod sgiliau Cymraeg plant oedran ysgol yn cael eu cwmpasu'n gynhwysfawr. Fodd bynnag, nid yw'r ffynonellau gweinyddol sydd ar gael yn caniatáu i amcangyfrifon o sgiliau siarad Cymraeg gael eu cynhyrchu ar lefel awdurdod lleol yn seiliedig ar nodweddion y boblogaeth fel oedran a rhyw.

Rydym yn cydnabod y gall fod angen defnyddio dulliau eraill o gasglu data er mwyn cynhyrchu ystadegau cadarn am y Gymraeg, er enghraifft drwy brosesau casglu data gweinyddol adrannau'r Llywodraeth neu drwy arolygon. Rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ymchwilio ymhellach i ffynonellau gweinyddol, yn ogystal ag ystyried ffyrdd o ddefnyddio ffynonellau data lleol i ddarparu'r wybodaeth hon.

Wrth i ni weithio i wella ansawdd y data gweinyddol, byddwn yn parhau i ddefnyddio data o arolygon pan fo angen i sicrhau bod ystadegau cadarn am sgiliau Cymraeg ar gael i'r rhai sy'n llunio polisïau a defnyddwyr data eraill. Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac rydym yn cynnal cynllun gwaith ymchwil uchelgeisiol ar y cyd er mwyn deall ansawdd ffynonellau casglu data cyfredol.

Mae canlyniadau cyntaf y cynllun gwaith hwn wedi cael eu cyhoeddi a gellir dod o hyd iddynt yn ein herthygl ar y cyd, Gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ac arolygon aelwydydd[1]. Bydd y cynllun gwaith hwn yn parhau i 2024 a bydd yn helpu i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol yn dilyn yr ymgynghoriad ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr.

Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, ac os gallwn helpu'r Pwyllgor ymhellach mewn perthynas â'r pynciau hyn neu unrhyw faterion eraill.

Yn gywir,

                                                                                                                  

Ruth Studley                                                                                            Jen Woolford



[1] https://www.llyw.cymru/gwahaniaethau-rhwng-amcangyfrifon-o-allu-yn-y-gymraeg-yng-nghyfrifiad-2021-ac-arolygon-aelwydydd